carningli.jpg
Cymraeg

Latest Events

No events

Login Form



Home
PDF Argraffu Ebost

Newport Castle

Mae Trefdraeth yn dre brydferth ar lan y môr rhwng Abergwaun ac Aberteifi ar yr A487. Mae castell ac eglwys Normaniaidd uwch ben y dref wrth droed mynnydd Carn Ingli.

Mae llwybrau cylchiol yn mynd o'r dref i gopa Carn Ingli lle mae golygfeydd bendigedig tua Eryri, Mynyddoedd Wicklow a Phen Ty Ddewi. Mae cyfoeth o blanhygion gwyllt a childraethau cyfrinachol ar Lwybr Arfordir Sir Benfro.

Mae Trefdraeth yn unigryw oherwydd ei safle ar ffin Bryniau Preseli ac mae'n ganolfan berffaith i chwilio am y cromlechi Geltiaidd yn yr ardal.

Mae traeth Trefdraeth yn hir ac yn euraidd ac mae'n lle delfrydol i nofio, gwneud windsurfing, hywlio a chanwïo. Mae pethau eraill i'w gwneud yn cynnwys golf, tennis, reidio ceffylau, pysgota a gwylio ardar.

 

View Over Newport

Mae nifer o siopau, orielau celf, siopau crefft, siopau hen bethau, siopau llyfrau a siopau coffi yn y dref. Mae bwytau a tharfannau yn cynnig dewis eang o fwyd gan gynnwys sewin lleol, brithyll o'r mor, cimwch a chranc.

Dro ar ôl dro mae ymwelwyr yn dychwelyd yma am yr heddwch a'r tawelwch, am yr hen lonydd bach sy'm mynd igam-ogam tua'r mor, am y golygfeydd ardderchog o'r mor ac am y croeso cynnes a gewch chi gan y trigolion.

 

LAST_UPDATED2
 
Please update your Flash Player to view content.

Polls

Parking for local residents at Traeth Mawr
 

Who's Online

Mae gennym 69 o westeion arlein