Datganiad o Genhadaeth

Nôd

Yn Ysgol Bro Ingli ein bwriad yw i ddarparu addysg fydd yn cwrdd ag anghenion pob disgybl, gan gynorthwyo’r disgybl hwnnw i gyrraedd ei l/llawn potensial. Dylai’r addysg hwn ei g/alluogi i fyw yn hyderus ac yn adeiladol o fewn y gymdeithas y mae yn rhan ohoni.

 

Amcanion yr Ysgol 

1.      Darparu addysg sy’n cwrdd ag anghenion pob plentyn, addysg a fydd yn ymestyn y disgybl i’w lawn botensial ac yn ei baratoi ar gyfer y gymdeithas y mae’n rhan ohoni.

2.     Datblygu ymwybyddiaeth yn y plant o’u medrau a’u cyfyngiadau, fel y gallant ddatblygu eu doniau’n llawn a thyfu yn bersonau cytbwys a hyderus.

3.     Sicrhau fod y plant yn dysgu sut i ddysgu, gan wybod sut a ble i chwilio gwybodaeth pan fydd angen. Fe fydd hyn yn galluogi’r plant i addasu ac ymateb yn briodol i bob math o sefyllfa.

4.     Dysgu’r plant sut mae meddwl a datrys problemau yn fathemategol, gwyddonol a thrwy dechnoleg.

5.     Sicrhau fod y plant yn hyfedr yn y sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

6.     Trosglwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’n diwylliant a’n hamgylchedd leol a phellach.

7.     Cwrdd ag angen y plant am weithgareddau corfforol, am weithgareddau celfyddydol ac am brofiadau cerddorol, a datblygu eu galluoedd yn y meysydd hyn.

8.     Cynorthwyo’r plant i feddu ar werthoedd personol a chymdeithasol fel y bont yn parchu daliadau, gwerthoedd ac eiddo eraill.

Overseer, the website management tool from Netring Media and Technology © 2005