Ysgol Bro Ingli
Ysgol gynradd gymunedol yw Ysgol Bro Ingli gydag adrannau addas i blant meithrin (rhan amser) ac i ddisgyblion iau a babanod i fechgyn a merched. Ceir hefyd uned feithrin Gymraeg wirfoddol yng ngofal Mudiad Ysgolion Meithrin. Mae dalgylch yr ysgol yn ymestyn o Drefdraeth i Nanhyfer, Felindre Farchog, Dinas ar wlad oddi amgylch.
Tra bo lle ar gael, derbynnir plentyn rhan amser y tymor wedi ei drydydd penblwydd. Caiff fynychur ysgol hyd at bump cyfnod yr wythnos.
Caiff disgyblion eu derbyn yn llawn amser y tymor wedi eu pedwerydd penblwydd, tra bo lle yn caniatau. Yn y Medi wedir seithfed penblwydd fe fydd y plant yn gadael yr adran fabanod ac yn symud ir adran iau. Yn un-ar-ddeg oed fe fydd y plant, fel arfer, yn trosglwyddo i, gan amlaf, naill ai Ysgol Ddwyieithog y Preseli, Crymych neu i Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun.
Agorwyd yr adeilad presennol ym mis Chwefror 1993. Cynllun rhannol agored sydd yma gydar uned feithrin ar adran fabanod i un ochr or ganolfan adnoddau ar adran iau ir ochr arall. Defnyddir y neuadd ddeniadol at wasanaeth boreol, rhai gwersi a phrydau bwyd canol dydd. Bydd y neuadd yn cael ei defnyddio gan Mudiad Ysgolion Meithrin rhai boreaur wythnos. Ir dwyrain or adeilad mae iard chwarae eang gyda cae chwarae ar bwys.
Cynlluniwyd yr ysgol gogyfer 120 o blant. Trefnir y dosbarthiadau yn ôl oedran.
Amserau agor ar chau
Maer ysgol yn dechrau am 9 or gloch y bore. Cynhelir gwasanaeth boreol o leiaf bedair gwaith yr wythnos,
Bydd pob plentyn yn rhan or gwasanaeth yma oni ddewisir yn wahanol am resymau crefyddol gan riant.
Bydd staff yn arolygur plant am 15 munud cyn ac hefyd ar ôl y diwrnod ysgol swyddogol. Ni ddylai plant gyrraedd yr ysgol cyn 8.45a.m. ac fe ddylent fod wedi gadael erbyn 3.45 p.m.
Sesiwn y bore: 9.00 y.b. 12.00 Sesiwn y prynhawn: 1.00 3.30 y.p.
Rydyn yn falch on ffigyrau presenoldeb. Rydyn hefyd yn falch o weld y plant yn cyrraedd yn brydlon tua 8.50 y bore.
Gwybodaeth Cyffredinol
Enwr Ysgol: Ysgol Bro Ingli
Pwyllgor Addysg: Pwyllgor Addysg Sir Penfro
Cyfeiriad yr Ysgol: Heol Hir, Trefdraeth, Sir Benfro SA42 0TL
Rhif Ffon: 01239 820682 Rhif Ffacs: 01239 820089
Math o Ysgol:Ysgol Gymunedol Sirol i hyd at 120 o blant 4 i 11 mlwydd oed.
Pennaeth:Miss A. James Dirprwy Bennaeth: Mrs S. Clarke
CORFF LLYWODRAETHOL
Cadeirydd: Mr Nick Dowsett
Is-gadeirydd: Mrs Celia Bartlett
Awdurdod lleol: Cyngh. Robin Evans, Mrs Elin Jones
Cyngor Cymuned: Cyngh. D Paish
Aelodau Cyfetholedig: Mr Richard Barlow, Mrs Celia Bartlett
Rhieni: Mr Nick Dowsett, Mrs Rhona Edmonds a Ms Jackie Morris
Athro: Mrs S. Clarke
Pennaeth : Miss A. James